Hugh James
Cymraeg
Pwy ydym ni?
Hugh James yw prif gwmni
cyfreithiol Cymru a chyda 41 o bartneriaid a gweithlu o tua 450 o
bobl mae'n un o'r 100 cwmni cyfreithiol mwyaf yn y DU.
Mae gennym enw da yn
genedlaethol mewn llawer o feysydd cyfreithiol ac mae ein maint a'n
harbenigedd eang yn ein galluogi i gynnig ystod gynhwysfawr o
wasanaethau cyfreithiol i'n cleientiaid:
- yn y sector cyhoeddus, lle rydym wedi ein
penodi i fwy na 30 o baneli gwasanaethau cyfreithiol yn y sector
cyhoeddus gan gynnwys Llywodraeth Cymru
- yn y sector preifat lle rydym yn gweithredu
ar ran cleientiaid megis Undeb Rygbi Cymru, Aviva, Dŵr Cymru, Banc
Brenhinol yr Alban a Barratt Homes
Nid oes gan yr un cwmni
arall yng Nghymru gymaint o uwch gyfreithwyr sy'n rhugl yn y
Gymraeg ac yn ymroddedig iddi. Mae ein huwch bartner, ein partner
rheoli newydd, naw partner arall ac un o'n hymgynghorwyr
mwyaf profiadol yn siaradwyr Cymraeg. Ym mron pob maes lle y gallai
fod angen cymorth cyfreithiol bydd cyfreithwyr profiadol o'r cwmni,
y mae llawer ohonynt yn arweinwyr cydnabyddedig yn eu priod feysydd
arbenigedd, yn gallu cynnig cyngor ac arweiniad yn Gymraeg.
Siaradwyr Cymraeg
Mae'r ffaith bod
nifer o staff mewn gwahanol swyddi yn y rhan fwyaf o'r adrannau yn
y cwmni yn rhugl yn y Gymraeg yn golygu y gallwn ddarparu
gwasanaethau fel arfer o fewn yr un amserlenni ac i'r un safon yn
Gymraeg neu Saesneg. Golyga hyn y gallwn ddarparu gwasanaethau sy'n
bodloni eich gofynion mewn ffordd fwy effeithiol a darbodus nag
eraill. Darllenwch ein polisi
iaith Gymraeg .
| Gradd staff |
Nifer y siaradwyr
Cymraeg |
| Partner |
11 |
| Ymgynghorydd |
1 |
| Cyfreithiwr |
12 |
| Cyfreithiwr dan Hyfforddiant/Paragyfreithiwr/Gweithredydd
Cyfreithiol |
10 |
| Cymorth Proffesiynol (Marchnata/Cyllid/TG/Adnoddau Dynol) |
3 |
| Gweinyddol |
2 |
| Cyfanswm y siaradwyr
Cymraeg |
39 |
Partneriaid sy'n
rhugl yn y Gymraeg
Ymgynghorwyr sy'n rhugl yn y
Gymraeg
Ymholiadau:
Rhif ffôn: 029 20 224871
Ebost: info@hughjames.com