Hugh James
Polisi iaith Gymraeg Hugh James
Mae Hugh James yn ymrwymedig i'r iaith
Gymraeg. Rydym yn trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn
gyfartal, lle bo hynny'n rhesymol bosibl.
Nid oes gan yr un cwmni cyfreithiol arall yng
Nghymru gymaint o uwch gyfreithwyr sy'n rhugl yn y Gymraeg, ac yn
ymrwymedig i'r Gymraeg. Mae ein huwch bartner, ein partner rheoli,
dau o'n pedwar pennaeth adran, saith partner arall ac un o'n
hymgynghorwyr mwyaf profiadol yn siarad Cymraeg. Yn y rhan fwyaf o
feysydd lle bydd gofyn am gymorth cyfreithiol, bydd cyfreithwyr
proffesiynol, y mae llawer ohonynt yn gyfreithwyr blaenllaw
cydnabyddedig yn eu meysydd arbenigedd penodol, yn gallu rhoi
cyngor ac arweiniad yn Gymraeg.
Argaeledd siaradwyr Cymraeg
- Mae gan Hugh James nifer o staff mewn
amrywiaeth o swyddi yn y rhan fwyaf o adrannau yn y cwmni sy'n
rhugl yn y Gymraeg.
- Felly rydym yn gallu darparu gwasanaethau i'r
un safon yn y Gymraeg a'r Saesneg fel arfer.
Dogfennau a gwybodaeth
- Bydd Hugh James yn parhau i gynhyrchu
fersiynau Cymraeg o ddogfennau a gwybodaeth berthnasol lle y bo'n
briodol.
Gwefan
Cyfathrebu
- Byddwn yn ceisio ymateb yn Gymraeg i
ohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg neu pan gawn gais i wneud
hynny.
- Rydym yn croesawu galwadau yn yr iaith
Gymraeg pan fydd ein staff sy'n siarad Cymraeg yn eu hateb.
Offer swyddfa
- Mae gennym fersiwn Cymraeg yn unig o'n papur
pennawd corfforaethol sydd ar gael i'w ddefnyddio lle y bo hynny'n
briodol.
- Mae cardiau busnes Cymraeg ar gael i'r
aelodau o staff sy'n siarad Cymraeg.
Delio â'r cyfryngau
- Gellir drafftio datganiadau i'r wasg a
datganiadau eraill ar gyfer cyfryngau argraffu a darlledu yng
Nghymru yn yr iaith dan sylw fel y bo'n briodol.
- Fel arfer, gall Hugh James gynnal cyfweliadau
yn Gymraeg i'w darlledu gan y cyfryngau.
Hysbysebu
- Caiff deunydd hysbysebu a hyrwyddo lleol ei
gynhyrchu yn Gymraeg neu yn Saesneg yn ôl yr hyn a ystyrir yn
briodol.
- Caiff deunydd hysbysebu ar y teledu, ar radio
ac mewn yn y wasg yng Nghymru ei gynhyrchu yn Gymraeg neu yn
Saesneg yn ôl yr hyn sy'n briodol i'r ymgyrch.
Staff a'r gweithle
- Rydym yn rhannu gwybodaeth am sgiliau iaith
Gymraeg pob aelod o staff yn y gweithle drwy ein mewnrwyd.
Cymorth a gweithredu ar lefel
uwch
- Mae ein bwrdd rheoli wedi cymeradwyo'r polisi
hwn yn swyddogol.
- Bydd y polisi hwn ar gael i'w ddarllen gan ein staff ac aelodau
o'r cyhoedd.
Ymholiadau:
Rhif ffôn: 029 20 224871
Ebost: info@hughjames.com