Alun Jones

Alun JonesSwydd

Partner Rheoli

Pennaeth y Tîm Ewyllysiau a Phrofiant

 

 

 

 

 

Proffil

Alun Jones yw Partner Rheoli Hugh James, gan gymryd yr awenau ym mis Ionawr 2011.

Yn ei rôl fel Partner Rheoli, mae Alun yn gyfrifol am lunio a gweithredu strategaeth fusnes y cwmni, yn ogystal â gweithrediadau o ddydd i ddydd.

Mae Alun hefyd yn parhau i weithredu fel pennaeth y tîm rheoli asedau yn Hugh James, sy'n cynghori sefydliadau ariannol ac unigolion preifat ar yr holl faterion sy'n ymwneud ag ewyllysiau, ymddiriedolaethau a phrofiant.

Chwaraeodd Alun ran hollbwysig yn y broses o ddatblygu ein gwasanaethau rheoli asedau yn seiliedig ar niferoedd, yr ydym yn eu darparu i frandiau gwasanaethau ariannol stryd fawr y DU. Mae'n rheoli cydberthnasau â'n cleientiaid busnes, partneriaid gwaith a chyflwynwyr ac mae ganddo brofiad sylweddol o ddatblygu systemau llif gwaith a osodir ar gontract allanol gyda strwythurau archwilio, goruchwylio ac adrodd cadarn ar gyfer cleientiaid y sector ariannol.

Mae Alun wedi chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau cyfreithiol ac mae'n parhau i fod â lle hollbwysig wrth ddatblygu modelau gweithredu arloesol a darbodus yn Hugh James. Mae wedi cynllunio a gweithredu systemau technegol cymhleth iawn ar gyfer ymdrin â nifer fawr o gyfarwyddiadau, gan arwain at fusnes newydd a chontractau pwysig â chwmnïau mawr y sector gwasanaethau ariannol.

Roedd Alun hefyd yn gyfrifol am ddatblygu a lansio porth gwasanaethau cyfreithiol ar-lein integredig o'r radd flaenaf ar gyfer Hugh James ac am ddatblygu cyfleusterau gwybodaeth reoli a chyflwyno adroddiadau allrwyd soffistigedig ar gyfer cleientiaid y cwmni. 
 

Gyrfa broffesiynol

Hyfforddi: Hugh James
Cymhwyso: 1994
Partner yn Hugh James: 1999
Pennaeth Is-adran Materion Corfforaethol Hugh James 2007 - 2010
Partner Rheoli Hugh James: 2011
 
Ymunodd Alun â Hugh James yn 1992 fel cyfreithiwr dan hyfforddiant. Cymhwysodd yn 1994 cyn symud ymlaen gyda Hugh James i fod yn Bartner Cyswllt, Partner Cyflogedig (1999) a Phartner Ecwiti (2003).

Roedd Alun yn bennaeth is-adran materion corfforaethol a bancio Hugh James rhwng 2007 a 2010, ac yn gyfrifol am roi swyddogaethau strategol a gweithredol ein timau cysylltiedig â busnes ar waith yn ystod y cyfnod hwn.

Penodwyd Alun yn bennaeth ein tîm ewyllysiau a phrofiant yn 2008.

 

Addysg

Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd
Prifysgol Caerwysg LLB. (Anrh) (1991)
Coleg y Gyfraith, Caer

 

Alun Jones colourAlun Jones

Partner Rheoli

Pennaeth y Tîm Ewyllysiau a Phrofiant

E alun.jones@hughjames.com

T 029 2022 4871

Cyswllt

Alun Jones colourAlun Jones

Partner Rheoli

Pennaeth y Tîm Ewyllysiau a Phrofiant

E alun.jones@hughjames.com

T 029 2022 4871

Design by Brand 68 | Development by Fusionworkshop | SEO by Pinnacle Internet Marketing