Gareth Williams
_m.JPG)
Swydd
Uwch Bartner
Ymgyfreitha Masnachol
Indemniad a Risg Gorfforaethol
Gwasanaethau
Sectorau cysylltiedig
Meysydd arbenigol
- Cyfraith chwaraeon
- Datrys anghydfodau
- Indemniad a risg gorfforaethol
- Anaf personol
- Iechyd a diogelwch
Proffil
Mae Gareth Williams yn Uwch Bartner yn Hugh James. Mae'n
arbenigo ym meysydd cyfraith chwaraeon ac achosion sylweddol o
ymgyfreitha masnachol ac yswiriant. Mae wedi cynrychioli
cleientiaid yswiriant a risg gorfforaethol am fwy na 25 mlynedd,
gan ymdrin ag achosion cymhleth a gwerth uchel. Ef yw ysgrifennydd
cwmni Undeb Rygbi Cymru, ac mae wedi gweithredu ar ei ran am 20
mlynedd.
Yn ddiweddar cynghorodd Gareth swyddfa Efrog Newydd cwmni
yswiriant rhyngwladol pwysig ar faterion mewn perthynas ag
yswiriant ac atebolrwydd yn deillio o ffrwydrad Buncefield. Yr
amlygiad posibl oedd £100 miliwn. Mae hefyd wedi cynghori
Llywodraeth Cymru ar anghydfod gwerth miliynau o bunnoedd yn
deillio o gytundeb noddi.
Gyrfa broffesiynol
Hyfforddi: Hardwickes, Caerdydd
Cymhwyso: 1976
Partner yn Hugh James: 1978
Cyn cael ei benodi'n Uwch Bartner yn 2005, roedd Gareth yn Bennaeth
yr Is-adran Ymgyfreitha Busnes. Mae Gareth yn gyn-Ddirprwy Farnwr
Rhanbarth ac ef oedd y cyfreithiwr cyntaf yng Nghymru i fod yn
ymarferydd ansolfedd trwyddedig.
Addysg
Ysgol Glan Clwyd (Prif Ddisgybl)
Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (LL.B ac Enillydd Gwobr Morgan
Owen y Gyfraith)
Gareth Williams
Uwch Bartner
Ymgyfreitha Masnachol
Indemniad a Risg Gorfforaethol
E gareth.williams@hughjames.com
T 029 2039 1022