Gerallt Jones

Gerallt Jones colour useSwydd

Partner
Pennaeth yr Is-adran Materion Corfforaethol a Bancio

 

Gwasanaethau

  • Corfforaethol

Sectorau Cysylltiedig

  • Diwydiannau Creadigol 

Meysydd Arbenigol

Pob agwedd ar waith corfforaethol gan gynnwys:

  • Uno a chaffael cyhoeddus a phreifat 
  • Buddsoddiadau ecwiti a dyled
  • Cyd-fentrau
  • Rhestrau
  • Gwerthu a phrynu gan dimau rheoli
  • Ailstrwythuro
  • Cyngor corfforaethol cyffredinol

 

Proffil

Mae Gerallt Jones yn bartner yn Hugh James a ef yw pennaeth yr is-adran materion corfforaethol a bancio. Ers ymuno â Hugh James yn 2005, mae Gerallt wedi arwain proses weddnewid yr adran gorfforaethol a bellach mae'n chwarae rhan flaenllaw yn y farchnad, gan gynghori cleientiaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru/Cyllid Cymru, RBS ac Undeb Rygbi Cymru. Bellach mae'n arwain practis ffyniannus sydd wedi denu cleientiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol o'r radd flaenaf ac mae wedi recriwtio cyfreithwyr o safon o'r Ddinas ac o gwmnïau lleol. Cymraeg yw mamiaith Gerallt ac mae'n gyfreithiwr cymwys yn Hong Kong yn ogystal ag yng Nghymru a Lloegr.

Mae'n ysgrifennydd i Bartneriaeth Fusnes Caerdydd, sy'n cynrychioli busnesau blaenllaw yn y ddinas, ac yn gyd-gadeirydd Grŵp 2030 Caerdydd. Mae Gerallt hefyd yn un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Datblygu Amgueddfa Caerdydd. 

Mae Gerallt wedi cynghori:

  • grŵp cynhyrchu teledu annibynnol AIM rhestredig Boomerang Plus plc ar amrediad o brosiectau gan gynnwys:
    - buddsoddiad ar y cyd â Bryn Terfel yn asiantaeth gerddoriaeth glasurol Harlequin.
    - caffael Oxford Scientific Films, cynhyrchwyr y cyfresi llwyddiannus byd-eang Meerkat Manor a Fatal Attractions.
    - caffael Indus Films, cynhyrchwyr sioeau megis Amazon gyda Bruce Parry a Coal House
    - menter ar y cyd â Channel 4 i gynnal The Big Freeze, gŵyl eirafyrddio a cherddoriaeth flynyddol a gynhelir yng Ngorsaf Bŵer Battersea
    - caffael y cylchgrawn campau eithafol Method 
  • Undeb Rygbi Cymru ar gytundeb £30 miliwn arloesol o ran ariannu a gweithredu ei bedwar rhanbarth rygbi: Gleision Caerdydd, Scarlets Llanelli, Dreigiau Casnewydd Gwent a'r Gweilch
  • Ar gaffael Rhaglen Dore, therapi amgen blaenllaw ar gyfer unigolion â dyslecsia ac anawsterau dysgu eraill, gan gonsortiwm o fuddsoddwyr a gasglwyd ynghyd gan y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru Scott Quinnell 
  • Pelican Products, Inc. (arweinydd byd-eang ym maes systemau goleuo datblygedig a chasys diogelu o Galifornia) ar ei drafodiad cyntaf yn y DU, sef caffael Blue i UK Limited 
  • Cyllid Cymru ar nifer o drafodion yn dilyn penodiad Hugh James i banel cyllid corfforaethol Llywodraeth Cymru 
  • Ar werthu Maxibrite, gweithgynhyrchydd tanwydd solet annibynnol blaenllaw y DU, i Coal4Energy, menter ar y cyd rhwng UK Coal a Hargreaves Services plc 
  • Ar y broses o brynu grŵp cyfryngau digidol Media4 gan y tîm rheoli 
  • Corfforaeth Grŵp Eltel (cwmni rhyngwladol o'r Ffindir ag 8,300 o gyflogeion) ar werthu busnes a chyfrandaliadau a chau ei gweithrediadau yn y DU 
  • Ar werthu Core Systems, perchennog gwefan gwerthu tai flaenllaw'r DU homesonview.co.uk, i Grŵp Cyfryngau'r Guardian
  • Cwmni trydan solar Energy Equipment Testing Service ar fuddsoddiad ecwiti gan RES, busnes ynni gwynt Syr Robert McAlpine 
  • Penseiri Morgan2Hayman  ar ddad-uno'r cwmni o Wigley Fox Partnership plc 
  • Siambrau bargyfreithwyr blaenllaw Caerdydd 33 Plas y Parc ar y broses o ddad-uno 
  • Gwerthwyr cwmni teledu Presentable (cynhyrchydd Late Night Poker) ar gael gwared ar ei Grŵp Cyfryngau RDF AIM rhestredig (cynhyrchydd Wife Swap)


Gyrfa broffesiynol

Hyfforddi: Slaughter and May                
Cymhwyso: 1995
Partner yn Hugh James:  2005
Dewiswyd yn Bennaeth Is-adran Materion Corfforaethol a Bancio Hugh James: 2010
 
1993 - 1998 Slaughter and May, Llundain a Hong Kong (gan gynnwys secondiad i Credit Suisse First Boston)
1998 - 2005 Freshfields Bruckhaus Deringer, Hong Kong a Llundain
2005 - Ymuno â Hugh James fel Partner a Phennaeth y tîm Corfforaethol
2010 - Dewiswyd yn Bennaeth Is-adran Materion Corfforaethol a Bancio Hugh James

 

Addysg

Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd
Coleg yr Iesu, Rhydychen
Coleg y Gyfraith, Caer 

 

geralt Jones ColourGerallt Jones

Partner
Pennaeth yr Is-adran Materion Corfforaethol a Bancio

E gerallt.jones@hughjames.com

T 029 2039 1095

Cyswlltgeralt jones colour

Gerallt Jones

Partner
Pennaeth yr Is-adran Materion Corfforaethol a Bancio

E gerallt.jones@hughjames.com

T 029 2039 1095

Design by Brand 68 | Development by Fusionworkshop | SEO by Pinnacle Internet Marketing