Gwen Evans

Swydd
Partner
Gwasanaethau
- Cyfraith Amgylcheddol
- Achosion Grŵp
Meysydd arbenigol
- Cyfraith amgylcheddol
- Achosion grŵp
- Anaf personol
- Esgeuluster proffesiynol
- Cyfryngu
Proffil
Mae Gwen yn Bartner yng ngrŵp
amgylcheddol Hugh James, gan ymdrin ag achosion grŵp ar ran
cymunedau y mae gwahanol fathau o lygredd amgylcheddol yn effeithio
arnynt.
Mae wedi gweithredu mewn nifer o
achosion grŵp amgylcheddol a hi oedd y cyfreithiwr arweiniol yn
achos Ymgyfreitha Grŵp Tirlenwi Parkwood (158 o hawliadau niwsans -
Sheffield) ac achos Ymgyfreitha Grŵp Tirlenwi Westmill (152 o
hawliadau niwsans - Swydd Hertford).
Penodwyd Gwen yn ddiweddar i
weithredu fel y cyfreithiwr arweiniol yn achos Ymgyfreitha Grŵp
Norton Aluminium yn ymwneud ar hyn o bryd â thros 130 o hawliadau
niwsans yn gysylltiedig â ffowndri yn Cannock. Rhestrwyd yr achos
am dreial tair wythnos yn yr Uchel Lys gan ddechrau yn haf
2011.
Ar hyn o bryd mae Gwen yn
cynrychioli trigolion mewn sawl achos parhaus yn ymwneud ag
allyriadau o weithfeydd gwahanol gan gynnwys y canlynol:
- Gweithfeydd Golosg a Chemegion
Monckton (Swydd
Efrog)
- Gwaith Trin Dŵr Gwastraff
Fleetwood
(Swydd Gaerhirfryn)
- Llosgydd Twyni
Crymlyn (Abertawe)
- Safle Rendro Anifeiliaid John
Knight
(Llundain)
- Alba
Proteins
(Penrith)
Mae Gwen wedi cyflawni nifer o
achosion grŵp mawr yn llwyddiannus yn y 12 mis diwethaf.
Mae hefyd wedi ymwneud ag achosion
grŵp mawr eraill megis yr hawliad gan deithwyr a anafwyd ar ôl
damwain awyr Gerona, a'r hawliad gwerth miliynau o bunnoedd gan
gyn-lowyr a honnodd esgeuluster proffesiynol yn erbyn eu
cyn-gyfreithwyr am achosion honedig o gamdrafod hawliadau
anafiadau.
Gyrfa broffesiynol
Hyfforddi: Hugh
James
Cymhwyso: 2001
Partner yn Hugh James: 2008
Addysg
Prifysgol Cymru, Ysgol y Gyfraith Caerdydd LLB Anrh
Prifysgol Caerdydd, Diploma mewn Arfer Cyfreithiol
Gwen
Evans
Partner
E gwen.evans@hughjames.com
T 029 2039 1118