Ioan Prydderch

Ioan Prydderch

Swydd

Partner

Pennaeth y Tîm Adeiladu, Ynni a Phrosiectau

Gwasanaethau

  • Adeiladu a Phrosiectau 
  • Ynni

Sectorau cysylltiedig

  • Adeiladu a Pheirianneg

  • Y Sector Cyhoeddus

Meysydd arbenigol

  • Adeiladu 
  • Prosiectau PFI/PPP 
  • Datrys Anghydfodau 

 

Proffil

Mae Ioan Prydderch yn bartner ac yn bennaeth y tîm adeiladu, ynni a phrosiectau. Ef yw pennaeth ein tîm sector cyhoeddus hefyd. Mae ganddo brofiad helaeth o gynghori cleientiaid yn y sector adeiladu a pheirianneg ar brosiectau ynghyd â'r anghydfodau a all godi. Mae'r tîm yn gweithredu ar ran amrediad o gleientiaid sy'n amrywio o'r llywodraeth ac awdurdodau cyhoeddus i fanciau, datblygwyr, contractwyr ac is-gontractwyr.

Mae'r tîm yn cynghori cleientiaid sy'n ymwneud â phrosiectau adeiladu, peirianneg ac ynni. Mae'r tîm yn cynnwys arbenigwyr ym maes caffael, dogfennaeth prosiectau a datrys anghydfodau.

Meysydd arbenigol Ioan yw:

  • Caffael a dogfennaeth prosiectau gan gynnwys contractau adeiladu, penodiadau, gwarantiadau cyfochrog, cytundebau fframwaith/partneriaid a bondiau. 
  • Contractau safonol: JCT, NEC, ICE, FIDIC, GCWorks, PPC2000, RIBA, BPF, ACE, CIC 
  • Ynni (gan gynnwys ynni adnewyddadwy) 
  • Datrys anghydfodau mewn ffordd amgen gan gynnwys negodi, cyfryngu a dyfarniadau arbenigwyr 
  • Ymgyfreitha, cyflafareddu a dyfarnu 
  • Esgeuluster proffesiynol yn ymwneud â gweithwyr proffesiynol adeiladu

Mae gan Ioan fwy na 10 mlynedd o brofiad yn cynghori'r sectorau cyhoeddus a phreifat ar faterion yn ymwneud â chyfraith adeiladu a chaiff ei gydnabod yn arbenigwr yn ei faes. Mae Legal 500 yn argymell Ioan ar gyfer gwaith yn ymwneud ag anghydfodau adeiladu. Disgrifiwyd Ioan fel rhywun “rhagweithiol, hawdd mynd ato, a bob amser yn asesu'r sefyllfa yn dda iawn” - Chambers

 

Gyrfa broffesiynol

Hyfforddi:   Hugh James
Cymhwyso: 1999
Partner yn Hugh James: 2006
 
Cymhwysodd Ioan yn 1999 yn Hugh James.Yna ymunodd â Laytons ym Mryste yn 2001 gan arbenigo ym maes cyfraith adeiladu a symudodd gyda thîm adeiladu Laytons i Clarke Willmott yn 2005. Dychwelodd Ioan i Hugh James yn 2006 fel Partner yn y Tîm Adeiladu a Phrosiectau, a daeth yn bennaeth y tîm yn 2009.

 

Addysg

Ysgol Gyfun Gŵyr, Tre-gŵyr, Abertawe
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Cymwysterau: LLB (Anrhydedd) 1994, MSc (Econ), Gwleidyddiaeth Ryngwladol 1995

 
Ioan Prydderch Ioan Prydderch

Partner

Pennaeth y Tîm Adeiladu, Ynni a Phrosiectau

E ioan.prydderch@hughjames.com

T 029 2039 1127

Cyswllt

Ioan PrydderchIoan Prydderch

Partner

Pennaeth y Tîm Adeiladu, Ynni a Phrosiectau

E ioan.prydderch@hughjames.com

T 029 2039 1127

Design by Brand 68 | Development by Fusionworkshop | SEO by Pinnacle Internet Marketing