Mari Rosser

Mari Rosser

Swydd

Partner

Gwasanaethau

  • Esgeuluster  Clinigola Chyfraith Iechyd

Meysydd arbenigol

  • Anafiadau i'r ymennydd
  • Anafiadau i asgwrn y cefn
  • Anafiadau trychinebus
  • Damweiniau angheuol
  • Achosion obstetrig

 

 

Proffil

Mae Mari Rosser yn bartner yn y tîm Cyfraith Iechyd ac Unioni. Ei phrif faes arbenigol yw esgeuluster clinigol ac mae'n aelod o baneli esgeuluster clinigol Cymdeithas y Cyfreithwyr a phanel atgyfeirio Gweithredu yn erbyn Damweiniau Meddygol. Mae gan Mari arbenigedd penodol mewn achosion o anafiadau i'r ymennydd ymhlith oedolion a hawliadau damweiniau angheuol. Mae wedi cynghori nifer o gleifion sydd wedi wynebu esgeulustod difrifol, gan gynrychioli buddiannau cleifion a theuluoedd mewn profedigaeth mewn achosion o'r fath yn ymwneud â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Mae Mari yn bennaeth tîm sy'n cynghori ac yn cynorthwyo Cynghorau Iechyd Cymuned (y Cynghorau) yng Nghymru ar bob agwedd ar gyfraith feddygol. Mae wedi bod yn rhoi cyngor a chymorth cyfreithiol i'r Cynghorau ers i'r cwmni gael ei benodi i weithredu fel cyfreithwyr y Cynghorau yn 2004. Mae wedi cynghori Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned, Prif Swyddogion ac eiriolwyr ar amrywiaeth o faterion cymhleth yn ymwneud â chyfraith gyhoeddus a meddygol. Mae Mari hefyd wedi darparu hyfforddiant i Brif Swyddogion ac Eiriolwyr Cwynion ar amrywiaeth o bynciau.  

Yng nghwmni Hugh James, mae Mari ar hyn o bryd yn gweithio gydag Adran Polisi Iechyd a Chymdeithasol Llywodraeth Cymru ar roi trefniadau Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG ar waith.  Mae'r rôl hon yn hanfodol i dîm esgeuluster clinigol Hugh James, o ran cynnal achosion unigol a'r gwasanaeth cynghori y mae'n ei ddarparu i Gynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru.

Mae Mari wedi bod yn chwarae rhan ganolog yn y drafodaeth gyhoeddus ar lawer o'r newidiadau diweddar i'r ffordd y mae pryderon cleifion ynghylch gwasanaethau'r GIG yn cael eu trin. Gwasanaethodd ar Weithgor Cynulliad Cymru a luniodd reolau'r Cynllun Datrys Cyflym.  Rhoddodd dystiolaeth i Bwyllgor y Cynulliad ar Fesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG ac mae wedi cyfrannu'n helaeth i'r ymgynghoriad ar y Rheoliadau Gweithio i Wella drafft.

Argymhellir Mari gan gyfeirlyfrau Legal 500 a Chambers fel arweinydd ym maes esgeuluster clinigol.  Mae Mari hefyd yn ddyfarnwr ar gyfer y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol. Mae Mari'n cyfrannu'n rheolaidd ar y cyfryngau yn Gymraeg ac yn Saesneg ar faterion yn ymwneud â chyfraith iechyd ac esgeuluster clinigol.

 

Gyrfa Broffesiynol

Cymhwyso: 1992

Partner yn Hugh James: 2001

Ymgynghorydd yn Hugh James: 2007

Partner yn Hugh James: 2011

 

Addysg

Gradd yn y Gyfraith, Prifysgol Aberystwyth, 1988

Arholiadau Terfynol Cymdeithas y Cyfreithwyr, 1989

 

Mari RosserMari Rosser

Partner

E mari.rosser@hughjames.com

T 029 2022 4871

Cyswllt

Mari RosserMari Rosser

Partner

E mari.rosser@hughjames.com

T 029 2022 4871

Design by Brand 68 | Development by Fusionworkshop | SEO by Pinnacle Internet Marketing