What are you looking for?

Yr iaith Gymraeg

Gan mai ni yw cwmni cyfreithwyr mwyaf Cymru a’n bod yn fusnes sy’n falch o’i Gymreictod, mae cyfrifoldeb arnom i hyrwyddo’r Gymraeg, ei defnyddio a’i galluogi i dyfu, ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif.

Mae llawer o’n cyfreithwyr yn siarad Cymraeg yn rhugl, ac rydym yn falch o ddweud ein bod yn gallu darparu pob un o’n gwasanaethau yn Gymraeg i gleientiaid y mae’n well ganddynt weithio gyda ni trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae dathlu diwylliant Cymru yn mynd law yn llaw â hyrwyddo’r Gymraeg ac rydym yn gweithio’n galed i gefnogi sefydliadau, mudiadau a mentrau sy’n gwneud hynny. Rydym hefyd yn annog ein haelodau o staff nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg i ddysgu’r iaith drwy nifer o fentrau a gynhelir gennym drwy gydol y flwyddyn.

Rydym wedi bod yn darparu gwasanaethau cyfreithiol am ddim i Urdd Gobaith Cymru a’r Eisteddfod ers blynyddoedd lawer. Caiff llawer o’n cleientiaid yn y sector cyhoeddus eu llywodraethu gan Safonau’r Gymraeg, felly mae gennym brofiad o ddarparu gwasanaethau sy’n cydymffurfio â’r Safonau hynny.

Ar-lein mae’r symbol Iaith Gwaith i’w weld ar broffiliau ein staff sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae croeso i chi gysylltu â ni os na allwch ddod o hyd i siaradwr Cymraeg sy’n arbenigo yn y maes cyfreithiol y mae arnoch chi ei angen.

Mae rhai o’n staff uwch yn aelodau o fyrddau ysgolion Cymraeg a byrddau elusennau/cyrff sy’n hyrwyddo’r celfyddydau, cerddoriaeth a drama yng Nghymru.

Er mai ein strategaeth yw parhau i ehangu ein gwaith ledled y DU ac yn rhyngwladol, byddwn yn parhau’n driw i’n treftadaeth Gymreig ac i’r iaith Gymraeg.


Welsh language

As Wales’ largest law firm, and a proud Welsh business, we have a responsibility to promote, use and grow the Welsh language which we take very seriously.

Many of our lawyers are fluent Welsh speakers and we are proud to say we are able to deliver all of our services in Welsh for clients who would prefer to work with us in this way.

Celebrating Welsh culture goes hand in hand with promoting the Welsh language and we work hard to support organisations and initiatives which do this. We also encourage our non-welsh speaking staff to learn Welsh through a number of initiatives we run throughout the year.

We have provided pro bono legal services to Urdd Gobaith Cymru and the Eisteddfod for many years. Many of our public sector clients are governed by the Welsh Language Standards, so we have experience in delivering services in compliance with said standards.

All of our Welsh speakers are indicated with the Iaith Gwaith symbol on their online profiles. If you can’t find a Welsh speaker who specialises in the area of law you require please get in touch with us.

Some of our senior staff sit on the boards of Welsh language schools and charities/arts organisations which promote Welsh arts, music and drama.

Although our strategy is to continue to expand our work across the UK and internationally, we will always retain our strong Welsh heritage and our commitment to the Welsh language.

Contact one of our experts

Fill in the form and one of our experts will get in touch with you shortly.