What are you looking for?

Polisi

Mae Hugh James wedi ymrwymo i’r Gymraeg. Rydym yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal, i’r graddau y gallwn wneud hynny’n rhesymol.

Nid oes gan yr un cwmni cyfreithiol arall yng Nghymru gynifer o uwch gyfreithwyr sy’n rhugl yn yr iaith Gymraeg, ac wedi ymrwymo iddi. Mae ein huwch bartner, ein partner rheoli, dau o’n pedwar pennaeth adrannol, saith partner arall ac un o’n hymgynghorwyr mwyaf profiadol yn siaradwyr Cymraeg. Yn y rhan fwyaf o feysydd lle y gallai fod angen cymorth cyfreithiol, bydd cyfreithwyr profiadol o’r cwmni yn gallu cynnig cyngor ac arweiniad yn Gymraeg. Mae llawer o’n siaradwyr Cymraeg yn arweinwyr cydnabyddedig yn eu meysydd arbenigedd perthnasol.

Argaeledd siaradwyr Cymraeg

  • Mae gan Hugh James nifer o staff mewn swyddi gwahanol, ar draws y rhan fwyaf o adrannau o fewn y cwmni, sy’n rhugl yn y Gymraeg.
  • Felly, fel arfer, gallwn ddarparu gwasanaethau i’r un safon yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Dogfennau a gwybodaeth

  • Lle bo hynny’n briodol, bydd Hugh James yn parhau i gynhyrchu fersiynau Cymraeg o wybodaeth a dogfennau perthnasol

Gwefan

Cyfathrebu

  • Byddwn yn ceisio ymateb yn Gymraeg pan fyddwn yn ymateb i ohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg neu pan fyddwn wedi cael cais i wneud hynny.
  • Rydym yn croesawu’r defnydd o’r Gymraeg wrth dderbyn galwadau gan ein staff sy’n siarad Cymraeg.

Deunydd ysgrifennu

  • Mae gennym fersiwn uniaith Gymraeg o’n papur pennawd corfforaethol, sydd ar gael i’w ddefnyddio fel y bo’n briodol.
  • Mae cardiau busnes Cymraeg ar gael i staff sy’n siarad Cymraeg.

Delio â’r wasg

  • Gellir drafftio datganiadau i’r wasg yn Gymraeg ar gyfer cyfryngau print a darlledu yng Nghymru, fel y bo’n briodol.
  • Fel arfer, gall Hugh James wneud cyfweliadau ar gyfer y cyfryngau darlledu yn Gymraeg.

Hysbysebu

  • Bydd deunydd hysbysebu a hyrwyddo lleol yn cael ei gynhyrchu naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg fel y bernir ei fod yn briodol. Bydd hysbysebion teledu, radio a phrint yn y cyfryngau yng Nghymru yn cael eu cynnal naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg, fel y bernir eu bod yn briodol i’r ymgyrch.

Staff a’r gweithle

  • Rydym yn rhannu gwybodaeth am sgiliau iaith Gymraeg pob aelod o staff yn y gweithle drwy ein mewnrwyd.

Gweithrediad a chefnogaeth lefel uwch

  • Cytunwyd ar y polisi hwn yn ffurfiol gan ein bwrdd rheoli.
  • Bydd y polisi hwn ar gael yn hwylus i’n staff a’r cyhoedd ei ddarllen.

Our policy

Hugh James is committed to the Welsh language. We treat Welsh and English on the basis of equality, so far as we are reasonably able to do so.

No other law firm in Wales has as many senior lawyers who are fluent in, and committed to, the Welsh language. Our senior partner, our managing partner, two of our four divisional heads, seven other partners and one of our most experienced consultants are Welsh speakers. In most areas upon which legal support may be required experienced lawyers from the firm, many of whom are recognised leaders in their respective fields of expertise, will be able to offer advice and guidance in Welsh.

Availability of Welsh speakers

  • Hugh James has a number of staff in various positions across most departments within the firm who are fluent in Welsh.
  • We are therefore usually able to deliver services to the same standard in Welsh or English.

Documents and information

  • Hugh James will continue to produce Welsh language versions of relevant documents and information where appropriate.

Website

Communication

  • We will seek to respond in Welsh when we are replying to correspondence received in Welsh or when we have received a request to do so.
  • We welcome the use of Welsh when receiving calls by our Welsh speaking staff.

Stationery

  • We have a Welsh only version of our corporate letter headed paper which is available for use as appropriate.
  • Welsh language business cards are available for Welsh speaking staff.

Dealing with the media

  • Press releases and statements can be drafted as appropriate to the language medium concerned for both print and broadcast media in Wales.
  • Hugh James is usually able to deliver Welsh language broadcast media interviews.

Advertising

  • Local advertising and promotional material will be produced either in Welsh or English as deemed appropriate.
  • TV, radio and print media advertising in Wales will be undertaken either in English or Welsh as deemed appropriate to the campaign.

Staff and the workplace

  • We share information about the Welsh language skills of each member of staff within the workplace via our intranet.

Senior level support and implementation

  • This policy has been formally agreed by our board of management.
  • This policy will be conveniently available for our staff and the public to read.